Ydych chi’n cael eich cam-drin yn eich cartref?
 

Gall trais yn y cartref fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn emosiynol ac yn ariannol ac mae’n effeithio ar ferched, dynion a phlant. Trosedd cudd ydyw o hyd gan fod y sawl sy’n dioddef yn gwneud hynny’n dawel, gan fod yn ofnus dros eu hunain a’u plant. Er mai dynion sydd gan amlaf yn ymddwyn yn dreisgar tuag at ferched yn y cartref (75%), ni ellir gwadu fod trais yn erbyn dynion a thrais mewn perthnasoedd un rhyw i’w gael, ynghyd â ffurfiau eraill o gamdriniaeth. Does neb yn haeddu cael eu treisio, eu cywilyddio nac yn haeddu byw mewn ofn oherwydd perthynas dreisgar.

Mae tystiolaeth fod trais yn digwydd yn amlach ac yn gwaethygu dros amser. Gall y trais hefyd gynyddu ar adegau penodol yn ystod bywyd dynes – e.e. pan mae hi’n feichiog ac wedi i blentyn gael ei eni. Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn amcangyfrif fod 20% o ymosodiadau yn digwydd tra bo dynes yn disgwyl. Er mwyn ymateb i’r dystiolaeth hon, mae Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn darparu hyfforddiant ar hyn o bryd i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd ar asesu peryglon trais yn y cartref, fel rhan o Lwybrau Clinigol Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Cynenedigol.

 
 
Rhai ffeithiau allweddol …
 
  • Prin iawn y bydd trais yn y cartref yn rhywbeth sydd ond yn digwydd unwaith. Mae camdriniaeth gorfforol a rhywiol yn tueddu o ddigwydd yn amlach ac yn tueddu o fynd yn waeth fel y bydd amser yn mynd yn ei flaen – weithiau dim ond pan fydd rhywun yn lladd unigolyn arall y bydd y trais yn dod i ben. Bydd dynes fel arfer yn dioddef 35 o ymosodiadau ar gyfartaledd cyn gofyn am help. Mae ffurfiau eraill o ymddygiad treisgar neu geisio rheoli rhywun arall yn debygol o ddigwydd dros nifer o flynyddoedd, ac i rai pobl, bydd hyn yn digwydd iddynt trwy gydol eu bywydau fel oedolyn.
  • Mae Trais yn y Cartref yn digwydd mewn 1 cartref ym mhob 4 tra bydd 1 dynes mewn 10 yn cael ei churo’n ddifrifol gan ei phartner ar ryw adeg yn ystod ei bywyd.
  • Ar gyfer y flwyddyn 2004/05, cafodd 800 o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â thrais yn y cartref eu cofnodi gan Heddlu Powys: roedd 83% (666) o’r rhain yn cynnwys digwyddiadau yn ymwneud â phartner/cyn bartner a’r gweddill yn cynnwys aelodau eraill y teulu.
  • Trais yn y cartref yw’r rheswm pennaf dros farwolaeth merched 19-44 oed, gan fod yn fwy na rhyfel, cansyr a damweiniau car. Mae tystiolaeth yn dangos mai partner neu gyn bartner sy’n gyfrifol am 41% o’r holl ferched sy’n cael eu lladd.
  • Mae cymaint â 150,000 o blant/pobl ifanc ar unrhyw amser yn cael eu heffeithio gan drais yn y cartref. Mae un mewn pum achos o gam-drin plant sy’n cael eu harchwilio gan y NSPCC yn cynnwys trais yn y cartref.
 
 
 


  © 2007 Powys Domestic Abuse Forum
Return to Home Page   |  Privacy   |   Cookies   |   Members Log In     
Site designed and maintained by Dragon Internet / West Wales Trading Limited