Mae’r Fforwm wedi llunio cynllun gweithredu am y 3 blynedd nesaf a’i nod yw Hyrwyddo’r neges nad yw trais yn y cartref yn dderbyniol
- Annog adrodd am drais yn y cartref a lleihau’r achosion o ymosod ar rywun dro ar ôl tro.
- Cynyddu hyder y sawl sy’n dioddef a sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i’r gwasanaethau a chymorth sydd ar gael iddynt
- Sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn derbyn trais yn y cartref
- Mesur beth yw gwir gost trais yn y cartref – yn ariannol ac i bobl
- Sicrhau bod troseddwyr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu hymddygiad
Mewn ymateb i Strategaeth Genedlaethol Cymru Gyfan: Mynd i’r Afael â Thrais yn y Cartref, mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys wedi llunio amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael i’r sawl sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cardiau gwybodaeth, cylch allweddi, nodau llyfr a nodiadau ‘post-it’ gyda manylion Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru a mudiadau sy’n cynnig help a chyngor. Mae gan y Fforwm wefan hefyd sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sef – ‘Not Your Fault’ ac mae wedi dosbarthu matiau llygoden a bandiau garddwn i ysgolion ym Mhowys. Mae Fforwm Trais yn y Cartref Powys yn ymroddedig o ran herio’r syniad fod trais yn y cartref yn dderbyniol.
Nid oes unrhyw esgus dros ymddwyn yn dreisgar, a dim ond y sawl sy’n gwneud hyn sydd ar fai. Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, rhoddodd Fforwm Trais yn y Cartref Powys 15,000 o fatiau cwrw i dafarnau led led Powys. Cafodd hyn ei ariannu trwy Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, i ledaenu’r neges nad yw trais yn y cartref yn ymddygiad derbyniol, os ydych yn feddw neu’n sobr. |