Os ydych angen gadael mewn brys...
 
1.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru neu eich asiantaeth trais yn y cartref lleol. Gallant eich helpu gyda:

• Aros yn ddiogel
• Gadael
• Cartref brys
• Cartref parhaol

domestic violence - help numbers


2. Mewn argyfwng, ffoniwch yr Heddlu ar: 999. Gall yr heddlu gynnig help gan gynnwys dod o hyd i rywle i aros ar unrhyw adeg. Mae gan ddioddefwyr yr hawl i gael help gan yr heddlu os ydynt yn cael eu hanafu, pa waeth bynnag pwy sy’n eu hanafu.
domestic violence - help numbers
3. Cysylltwch â’ch Swyddfa Dai Ardal Leol.
domestic violence - help numbers
4. Cysylltwch â Galw Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (Community Legal Services Direct)
domestic violence - help numbers
5. Cysylltwch â Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cymru. .
domestic violence - help numbers
 
 
Yn bwriadu gadael...
  Os ydych yn bwriadu gadael, dyma ychydig o syniad a all eich helpu. Awgrymiadau ydynt a does dim rhaid i chi fod wedi trefnu’r holl bethau hyn cyn i chi adael.... ...

Ceisiwch ddod o hyd i le diogel i fynd iddo (tŷ ffrind, teulu neu loches)

Trefnwch arwydd gyda ffrind fel y gellir eich helpu i ddianc. Efallai y bydd angen i’r arwydd hwn fod mewn côd

Ceisiwch gael digon o arian wedi’i roi o’r neilltu rhag ofn fod angen i chi dalu’n gyflym am dacsi, taith mewn bws neu drên

Casglwch ddogfennau ynghyd megis llyfrau budd-dâl plant a llyfrau budd-daliadau eraill, pasbortau, tystysgrifau geni, llyfrau rhent, manylion morgais ac ati a’u cadw mewn lle diogel er mwyn i chi gael gafael arnynt yn rhwydd

Sicrhewch fod gennych set arall o allweddi ar gyfer eich tŷ neu unrhyw le arall y gallech fod angen mynd iddo. Cofiwch fynd â’ch set o allweddi tŷ gyda chi

Cadwch restr o gysylltiadau brys, e.e. ysgol, meddyg teulu, gwasanaethau cymorth, mewn lle diogel

Cuddiwch fag bychan o eitemau hanfodol mewn lle diogel ynghyd ag unrhyw ddeunyddiau golchi, pethau ar gyfer babanod neu eitemau personol y byddwch eu hangen o bosibl

Os oes gennych blant, cofiwch fynd â’u hoff degan neu gysurwr gyda chi

Mae gwneud y penderfyniad i adael yn gam mawr ond yn un y bydd pobl yn ei wneud yn llwyddiannus bob dydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hunan ac mae llawer o help ar gael i’ch cynorthwyo.
 
 
 


  © 2007 Powys Domestic Abuse Forum
Return to Home Page   |  Privacy   |   Cookies   |   Members Log In     
Site designed and maintained by Dragon Internet / West Wales Trading Limited