 |
| Os bydd rhywun yn dod atoch am help, gwrandewch a cheisiwch beidio â chymryd rheolaeth. Gall y pwyntiau canlynol eich helpu: |
 |
 |
Ceisiwch gymryd yr unigolyn o ddifrif a chredu’r hyn y maent yn ei ddweud | |
 |
 |
Peidiwch â chynhyrfu a byddwch yn bositif. | |
 |
 |
Parchwch eu dymuniadau bob amser. Gofynnwch iddynt beth y maent ei eisiau | |
 |
 |
Rhowch amser iddynt drafod eu teimladau a’u hanghenion heb roi pwysau arnynt i frysio | |
 |
 |
Pwysleisiwch nad ydynt yn gyfrifol am y trais ac nad ydynt ar ben eu hunain | |
 |
 |
Ceisiwch weld a ydynt angen help meddygol | |
 |
 |
Defnyddiwch y wefan hon i ddod o hyd i fudiad a all helpu | |
 |
 |
Peidiwch â’u gwthio i wneud unrhyw beth nad ydynt yn barod i’w wneud. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i farnu’r ffordd orau ymlaen a pha ffordd o weithredu sy’n ddiogel. | |
 |
 |
Helpwch hwy wrth gysylltu ag asiantaethau a all eu helpu, e.e. yr Heddlu, Next Link, cyngor cyfreithiol |
|
 |
 |
Helpwch hwy i gadw’n ddiogel trwy wneud cynllun diogelwch | |
 |
 |
Rhowch sicrwydd iddynt na fyddwch yn datgelu unrhyw wybodaeth. Sicrhewch ei bod yn ddiogel i gysylltu â hwy a beth yw’r ffordd fwyaf diogel o gadw mewn cysylltiad. | |
 |
Mae rhai pobl yn gadael perthynas dreisgar wedi dim ond un digwyddiad. Gall gymryd amser hir i eraill wneud y newid hwn i’w bywydau. Nid yw hyn yn golygu fod y trais yn llai difrifol. Mae’n bwysig bod rhywun yn parhau i dderbyn help a chymorth ac yn derbyn cydymdeimlad os ydynt yn teimlo na allant adael. Mae mudiadau a all helpu merched a dynion nad ydynt yn barod i adael.
|