| Os wyt ti’n edrych ar y tudalennau hyn, mae’n bosibl nad wyt ti’n hapus gyda’r hyn sy’n digwydd rhwng dy rieni neu ofalwyr yn y cartref neu efallai dy fod eisiau rhagor o wybodaeth ar drais a chamdriniaeth yn y cartref. Ar y dudalen hon, mae dolenni i safleoedd sy’n gallu rhoi llawer o wybodaeth i ti am yr hyn sy’n digwydd..
Y pethau i’w cofio yw:
Nid y ti sydd i’w feio am yr hyn sy’n digwydd adref
Ceisia gadw’n ddiogel – paid â cheisio stopio’r trais os yw’n digwydd
Dylet wybod sut i ffonio’r heddlu/ffonio am ambiwlans neu aelod o’r teulu os wyt ti’n ofnus iawn
------------------------------------------------------------------------
Os wyt ti’n cael dy gam-drin neu’n meddwl dy fod yn cael dy gam-drin, cer i edrych ar y gwefannau isod. Mae llawer o wybodaeth arnynt a fydd yn dy helpu i ddewis y peth iawn i’w wneud. Byddant hefyd yn dy helpu i ddod o hyd i rywun i siarad â hwy.
Not Your Fault - gwefan wedi’i hysgrifennu’n arbennig i blant. Mae llawer iawn o help defnyddiol i ti edrych arno.
The Hideout - llawer iawn o help i ti neu ffrind yr wyt ti’n poeni amdano.
Bursting the Bubble - help i ddweud beth yw trais yn y cartref a sut i ddweud wrth rywun dy fod angen ychydig o help
Childline - Llinell gymorth i blant sy’n poeni am unrhyw beth neu sydd angen rhywun i sgwrsio â hwy.
NSPCC Kids Zone - llinell gymorth a gwybodaeth ar ba help sydd ar gael i chi.
Powys Children's Forum - adnodd gwybodaeth enfawr i blant ym Mhowys
|